(Llun: Cyngor Sir Gar)
Mae rhan o heol yr A48 yn Sir Gaerfyrddin yn cau heddiw am chwe wythnos er mwyn atgyweirio piblinell amldanwydd sy’n rhedeg oddi tani.

Mae’r biblinell yn cael ei chynnal gan y cwmni Mainline Pipelines ac yn rhedeg rhwng y burfa ym Mhenfro i derfynellau ym Manceinion, Kingsbury a Swydd Warwig.

Er bod y biblinell yn gweithredu’n ddiogel ar hyn o bryd, mae diffyg wedi’i ganfod ar ddarn ohoni sy’n croesi o dan ffordd gerbydau Cefnffordd Llundain i Abergwaun (A48) tua’r dwyrain yn Nant-y-caws, Sir Gaerfyrddin.

Bydd y ffordd ynghau felly o heddiw hyd Hydref 28, gyda thraffig yn cael eu dargyfeirio o gyffordd Pen-sarn yng Nghaerfyrddin tua’r dwyrain gan ddilyn hen ffordd osgoi Nant-y-caws ar hyd yr A40 cyn ymuno â’r B4300 ar Heol Llangynnwr ac yn ôl i’r A48.