Mae’r ddynes a fu farw mewn gwrthdrawiad tractor ar fferm ger Corwen neithiwr wedi’i henwi’n lleol fel y ddynes fusnes adnabyddus, Stephanie Booth.

Roedd yn berchennog ar nifer o westai a busnesau yng ngogledd ddwyrain Cymru, ac yn wyneb cyfarwydd ar BBC Wales am ei rhaglenni Hotel Stephanie a oedd yn canolbwyntio ar sut y mae cynnal a rhedeg gwestai o ddydd i ddydd.

Rhai blynyddoedd yn ôl daeth yn agos iawn at gwblhau cais i brynu clwb pêl-droed Wrecsam.

Roedd wedi cael llawdriniaeth i newid ei rhyw yn yr 80au.

Mae lle i gredu bod gan Stephanie Booth fferm yng nghyffiniau Corwen, ac yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, un cerbyd yn unig oedd yn y gwrthdrawiad neithiwr.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r lleoliad ar dir amaethyddol tua 8yh neithiwr (nos Sul, Medi 18) ond roedd y ddynes wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae’r gweithgor iechyd a diogelwch a’r Crwner wedi’u hysbysu.