Mae  dau ddyn wedi marw yn dilyn damwain awyren fechan ‘microlight’ ger Llanfair ym Muallt ddoe.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys bod ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi’r ddamwain yng Nghwmbach tua hanner dydd, dydd Sul 18 Medi.

Mae teulu’r ddau ddyn wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan Swyddogion Cyswllt Teulu’r Heddlu.

Mae’r crwner lleol hefyd wedi cael gwybod.

Mae ymchwiliad ar wahân yn cael ei gynnal gan yr Adran Ymchwilio Damweiniau Awyr Annibynnol.