Cyflwynwyr Radio Cymru Mwy - top chwith, Elan Evans, Gwennan Mair, Caryl Parry Jones, Steffan Alun. Llun: BBC Cymru
Wrth i’r orsaf sy’n gynllun peilot tri mis gan Radio Cymru ddechrau darlledu’n ddigidol am y tro cyntaf heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud y dylai fod ar bob radio digidol ac yn barhaol.

Bwriad Radio Cymru Mwy yw cynnig mwy o gerddoriaeth a sgyrsiau mewn sioe frecwast boreol, a bydd modd gwrando arni rhwng 7yb a 12yp bob dydd tan fis Ionawr, pan fydd Radio Cymru yn dathlu’i ben-blwydd yn ddeugain oed.

Mae modd gwrando ar yr orsaf ar wefan Radio Cymru Mwy, ar ap BBC iPlayer Radio ac fel dewis ar radio digidol DAB yn y de ddwyrain – a hynny tra bo amserlen arferol Radio Cymru yn parhau ar y tonfeddi.

‘Gwneud yr arbrawf yn un parhaol’

Eisoes, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r cynllun, ond maen nhw am weld yr arbrawf yn dod yn gynllun parhaol.

Mae’r mudiad wedi bod yn annog darlledwyr i ehangu eu gwasanaethau ar ragor o blatfformau ers nifer o flynyddoedd.

Mae’r mudiad wedi croesawu gwasanaeth newydd ar-lein S4C hefyd o’r enw ‘Pump’, ac wedi galw ar i Awdurdod S4C ehangu gwasanaethau Cymraeg i nifer o blatfformau eraill, gan gynnwys radio.

Ar hyn o bryd, bydd Radio Cymru Mwy ddim ond ar gael ar radio digidol yn Ne-Ddwyrain y wlad.

“Rydyn ni’n galw ar i’r BBC ymestyn y gwasanaeth i radio digidol ym mhob rhanbarth o Gymru, yn hytrach na’r De Ddwyrain yn unig,” meddai Curon Davies ar ran y gymdeithas.

“Ry’n ni wedi galw am sefydlu gwasanaeth annibynnol newydd ar draws nifer o blatfformau gydag adnoddau sylweddol – nid dyna yw’r hyn a lansiwyd heddiw, ond mae’n gam yn y cyfeiriad cywir a dymunwn bob llwyddiant i’r gwasanaeth newydd,” meddai.

“Yn sicr, byddwn ni’n galw ar i benaethiaid y BBC wneud yr arbrawf yma yn un parhaol a’i ddatblygu’n bellach fel bod y Gymraeg yn cael ei chlywed ar bob un platfform.”

Cyflwynwyr

Ddechrau’r mis, fe gyhoeddodd BBC Cymru mai cyflwynwyr newydd yr orsaf fyddai Caryl Parry Jones, Ifan Evans, Huw Stephens, Dylan Ebenezer, Steffan Alun, Elan Evans a Gwennan Mair.