Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai amddiffynnwr Cymru, Ben Davies symud o Spurs i Chelsea am £20 miliwn.

Er bod y ffenest drosglwyddo wedi cau erbyn hyn, mae lle i gredu bod rheolwr Chelsea, Antonio Conte yn paratoi i golli John Terry, sy’n dod i ddiwedd ei yrfa.

Byddai sicrhau gwasanaeth Davies yn golygu bod Chelsea yn cadw at reolau’r Uwch Gynghrair ynghylch nifer y chwaraewyr Prydeinig sy’n cael bod yn y garfan.

Yn ôl papur newydd y Sun, mae Conte yn gobeithio chwarae Davies ar ochr chwith amddiffyn tri dyn, ac mae’r safle’n un sy’n gyfarwydd i Davies ar ôl Ewro 2016 yn Ffrainc dros yr haf.

Dydy Davies ddim yn sicr o’i le yn nhîm Spurs, ac mae’n aml yn chwarae ail feiolin i Danny Rose.