A hithau bron yn hanner can mlynedd ers trychineb Aberfan, mae arddangosfa ffotograffig wedi cael ei hagor yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Ar Hydref 21, 1966, cafodd y cwm o amgylch Aberfan ei orchuddio gan domenni uchel o wastraff o bwll glo Merthyr Vale.

Funudau ar ôl i ‘tip 7’ ddechrau symud, rhuthrodd tirlithriad anferth o gerrig a llwch glo i lawr y mynydd gan droi’n hylif wrth gymysgu â dŵr oddi tano, a dinistrio popeth yn ei lwybr, gan gynnwys dau fwthyn, nifer o dai ac Ysgol Gynradd Pantglas.

Cafodd 144 o bobol eu lladd, gan gynnwys 116 o blant.

Roedd miloedd o bobol yn rhan o’r broses o lanhau’r pentref ac o geisio achub goroeswyr oedd o dan y rwbel.

Bydd yr arddangosfa newydd yn edrych ar yr ymateb i’r digwyddiad, ac mae’n cynnwys ffotograffau o’r drychineb, llenyddiaeth goffa gan gynnwys barddoniaeth, erthyglau ac ysgrifau, casgliad o luniau ITV Cymru a gosodwaith glo newydd.

Bydd cyfle hefyd i weld ffotograffau gan I.C. Rapoport yn arddangosfa ‘Y Dyddiau Du’.

‘Ergyd drom’

Dywedodd  I. C. Rapoport: “Yn Efrog Newydd gwyliais adroddiad ar ôl adroddiad ar y newyddion o Aber-fan gyda’m mab pedwar mis oed yn gorwedd wrth fy ymyl, a chefais fy ergydio yn drwm gan y drychineb.

“Roedd gennyf ddymuniad anorchfygol i dynnu lluniau o’r pentref glofaol hwnnw yng Nghymru – wedi i’r dorf gyntaf o newyddiadurwyr roi’r gorau i adrodd hanes y drychineb – dymuniad i dynnu lluniau o’r bywyd a fyddai’n ei dilyn”

‘Y galar yn aros’

Ychwanegodd y Llyfrgellydd Cenedlaethol, Linda Tomos: “Mae’n briodol iawn fod y Llyfrgell yn coffau trychineb Aber-fan drwy’r arddangosfa arbennig hon.

“Er bod hanner canrif wedi mynd heibio y mae’r digwyddiad dal yn fyw iawn ym meddyliau bob un ohonom, ac y mae’r galar yn aros.

“Wrth ymweld â’r arddangosfa nid yn unig y byddwn ni’n sylweddoli maint y drychineb i’r genedl gyfan, ond hefyd fe allwn ni geisio dirnad ymhellach maint y golled i’r teuluoedd a gollodd eu plant a’u hanwyliaid; wrth reswm, ni allwn ddirnad yn llwyr maint y golled.”