Fe fydd yr athletwyr o Gymru sydd wedi bod yn cynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Rio yn cael croeso adref nos Iau, Medi 29.

Mae derbyniad arbennig wedi cael ei drefnu y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd rhwng 5-7 o’r gloch, lle bydd yr holl athletwyr yn cael eu cyfarch gan Lywydd y Cynulliad, Elin Jones a’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Ymhlith yr adloniant fydd dawnswyr samba a chôr Academi Only Boys Aloud, a’r cyfan yn cael ei lywio gan y cyflwynydd chwaraeon Jason Mohammad.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Fe wnaeth ein hathletwyr chwarae rôl allweddol yn llwyddiant timau Olympaidd a Pharalympaidd Prydain yn Rio de Janeiro.

“Llwyddon nhw i dorri’r record o ran nifer y medalau yn y Gemau Olympaidd ac roedd 10% o dîm Paralympaidd Prydain yn dod o Gymru.

“Unwaith eto, ry’n ni wedi dangos ein bod yn genedl o bencampwyr a’n bod yn gallu cynhyrchu athletwyr sy’n barod amdani ac sy’n gallu perfformio ar lwyfan byd-eang.

“Bydd y digwyddiad i’w croesawu adref yn ddiweddarach yn y mis yn gyfle i’r genedl ddiolch i’r athletwyr hyn sy’n ein hysbrydoli am y llawenydd a’r boddhad maen nhw wedi’i roi i Gymru’r haf hwn.”

Ychwanegodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones: “Ar ran y Cynulliad, rwy’n edrych ymlaen at ddathlu llwyddiant ysgubol ein sêr Olympaidd a Pharalympaidd, a hynny ar lwyfan cenedlaethol yma yn y Senedd.

“Mae cynifer o bobl ar hyd a lled y wlad wedi mwynhau eu gwylio’n cystadlu, ac yn hynod o falch eu bod wedi llwyddo i ennill mwy o fedalau nag erioed o’r blaen.

“Maen nhw’n siŵr o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athletwyr ac rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn ymuno â ni i’w llongyfarch.”

Enillwyr y medalau yn Rio

Gemau Olympaidd: Aur – Owain Doull, Jade Jones, Hannah Mills, Elinor Barker; Arian – Victoria Thornley, Becky James (2), Jazz Carlin (2), James Davies a Sam Cross

Gemau Paralympaidd: Aur – Aled Siôn Davies, Rachel Morris, Hollie Arnold, Rob Davies; Arian – Aaron Moores a Jodie Grinham; Efydd – Sabrina Fortune a Phil Pratt