“Rhaid i ni beidio â bod ofn breuddwydio am Gymru annibynnol” oedd neges Nick Stradling o fudiad ‘Wales in the Movies’ yn ystod rali o blaid annibyniaeth yng Nghaerdydd y bore ma.

Roedd yn un o’r siaradwyr yn rali Yes Cymru yn Yr Aes a gafodd ei threfnu, meddai’r trefnwyr, er mwyn brwydro yn erbyn “syndrom Stockholm” San Steffan.

Roedd y siaradwyr eraill yn cynnwys y Democrat Rhyddfrydol a’r cyn-Aelod Seneddol Llafur Gwynoro Jones, Aelod Cynulliad Plaid Cymru Neil McEvoy a’r ymgyrchydd Sandra Clubb.

Dywedodd Nick Stradling: “Rhaid i ni beidio â bod ofn breuddwydio am Gymru annibynnol. Fe weithiwn ni tuag at nod gyffredin.”

Ychwanegodd Sandra Clubb, gwraig prif weithredwr Plaid Cymru Gareth Clubb: “Bydd Cymru annibynnol yn wladwriaeth decach ar ei phobol na’r Wladwriaeth Brydeinig.”

Yn ystod ei araith yntau, dywedodd Neil McEvoy: “Mae angen i ni addysgu, arddel a pharchu ein gorffennol er mwyn cael dyfodol cenedlaethol hyderus.”