Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau i’w gefn ar ôl cwympo 20 troedfedd ym Mhenarth fore Sadwrn.

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i Bier Penarth am 3.52 y bore.

Cafodd y dyn driniaeth yn y fan a’r lle cyn cael ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae lle i gredu ei fod e wedi cael anafiadau i’w gefn, ac wedi torri ei goes a’i arddwrn.