Anna Sousa
Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ynghylch Anna Sousa, merch 16 oed sydd ar goll.

Mae Anna Sousa ar goll o ardal Abertawe ond credir ei bod wedi teithio i Lundain. Mae ganddi gysylltiadau yn ardal Guildford yn Surrey.

Fe’i gwelwyd ddiwethaf am 7.30 yr hwyr ar nos Fercher, Medi 14, ac roedd yn gwisgo jîns a siaced ddu a choch gyda zip a threinyrs.

Gofynnir i unrhyw un sydd wedi gweld neu glywed ganddi i ffonio’r Heddlu ar 101 a dyfynnu 1600354844.