Guto Bebb
Mae’r Aelod Seneddol Guto Bebb wedi dweud bod y dosbarth gwleidyddol yng Nghymru yn gwneud drwg i ddelwedd y Cynulliad trwy ei bortreadu fel “corff sy’n anabl i wasanaethu pobol Cymru”.

Ers sefydlu’r Cynulliad yn 1999, mae’r Tori yn dadlau bod Cymru wedi gweld blynyddoedd o flaenoriaethau anghywir sydd, gyda Mesur Cymru, wedi cyrraedd penllanw.

Yn hytrach na gwneud y mwyaf o’r pwerau sydd wedi’u trosglwyddo, “rydan ni wastad eisiau mwy”, meddai.

Roedd AS Aberconwy yn sgwrsio gyda golwg360 cyn traddodi darlith ar y pwnc yn Galeri, Caernarfon heno.

Mae’n traddodi’r ddarlith ar ddiwrnod Owain Glyndŵr a’i fwriad yw trafod potensial y Cynulliad a’r “cyfnod tyngedfennol” sy’n wynebu Cymru.

“Yn y bôn yr hyn dw i’n drio’i wneud ydi dadlau ein bod ni wedi gwneud drwg i’r Cynulliad ac i hunaniaeth Gymreig trwy fod mor negyddol am y Cynulliad,” meddai AS Aberconwy.

“Bob tro mae rhywun yn nodi nad oes gan y Cynulliad ddigon o bwerau, mi rydan ni’n creu’r ddelwedd o gorff sy’n anabl i wasanaethu pobol Cymru.

“Yn lle gofyn be allwn ni ei wneud hefo’r pwerau, mi rydan ni wastad eisiau mwy. Pan lansiwyd y Cynulliad yn 1999, mae’n amhosib dadlau nad oedd y canlyniad yn enghraifft o wleidyddiaeth Cymru yn datblygu mewn ffordd pur wahanol i wleidyddiaeth Prydain.…ond mae’r dosbarth gwleidyddol wedi tanseilio’r corff sydd wedi ei eni hefo cryn dipyn o frwdfrydedd.”

‘Sefydlu’r Cynulliad fel grym go-iawn’

Newid agwedd y dosbarth gwleidyddol a magu hyder ymhlith y bobol yw’r ffordd ymlaen, yn ôl Guto Bebb.

“Mae eisiau i ni rŵan symud mlaen i son am be ydi’r posibiliadau. Mae pwerau’r Cynulliad yn fwy na be’ maen nhw erioed wedi bod o’r blaen,” meddai.

“Mi’r ydan ni ynghanol cyfnod gwirioneddol dyngedfennol… ac mi all fod yn gyfnod o sefydlu’r Cynulliad fel grym go-iawn yng Nghymru wrth ymateb i Brexit. Os am greu hunaniaeth Gymreig, mae’n rhaid dangos bod y corff yma nid yn unig yn llwyddo, ond efo hyder y bobol.

“Yr hyn sy’n tanio dychymyg pobol am gorff ydi ei lwyddiant o, a’i effaith ar fywydau bob dydd. Os nad ydan ni’n fodlon gwneud hynny, mae arna i ofn y byddwn ni mewn lle anodd.”

Guto Bebb sydd yn traddodi darlith Gorffa Owain Glyndŵr yn Galeri Caernarfon heno ar y pwnc – Diflastod cyfansoddiadol wrth golli hunaniaeth. Y dosbarth gwleidyddol yng Nghymru ers 1999.