Mae perchnogion siop gelf yn Aberystwyth wedi croesawu cynllun gan Gyngor Ceredigion i baentio  murlun anferth o brif gymeriad cyfres deledu Y Gwyll ar ochr yr adeilad.

Fe allai’r murlun orchuddio ochr gyfan o siop gelf Millwards’ ar Heol y Wig yn Aberystwyth, pe bai’r cynllun yn cael ei basio.

Mae’r gyfres deledu ditectif, sydd wedi cael ei ffilmio yn Gymraeg a Saesneg, yn cael ei hystyried fel un o lwyddiannau mwyaf S4C yn nhermau gwerthiant ar ôl cael ei dangos mewn dros 30 o wledydd tramor.

Ar ôl bod yn dilyn y gyfres, fe ddywedodd perchnogion siop Millwards’ fod y cynllun yn plesio.

“Mi ddaeth swyddogion yma ddoe i fesur yr adeilad. Rwy’n meddwl ei fod o’n syniad grêt – dw i wrth fy modd hefo’r rhaglen a dw i’n meddwl bod eisiau ei dathlu hi yn lleol,” meddai Mrs M White sy’n rhedeg y siop gyda’i gŵr.

“Dw i wedi cael cynigion o’r blaen i greu murlun ar ochr y siop, ond y cynigion yma sydd wedi ein plesio fwyaf.”

Yn ôl y cynllun byddai llun paent o brif gymeriad y ddrama DCI Tom Mathias, sy’n cael ei bortreadu gan yr actor Richard Harrington.