Am tua chwech o’r gloch neithiwr bu damwain draffig ddifrifol ar yr A4063 yn Nantyffyllon ger Maesteg.

Bu gwrthdrawiad ar y gyffordd rhwng Picton Street a Nantyffyllon Terrace.

Fe ddioddefodd gyrrwr beic modur du Huoniao dioddef anafiadau difrifol.

Mae Heddlu’r De yn gofyn i dystion a welodd y ddamwain neu’r beic modur du yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, i’w ffonio ar rif Taclo’r Taclau 0800 555 111 neu ffonio’r Heddlu ar 101 a dyfynnu’r cyfeirnod 1600356.