Y mae cwmni Horizon wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw fod Llywodraeth Prydain am fwrw ymlaen gyda adeiladu Gorsaf Niwcliar Hinkley Point C.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni sy’n gobeithio codi atomfa newydd yng ngogledd Môn, “Mae egni niwcliar yn allweddol ar gyfer cymysgedd trydan Prydain, ac mae’r cyhoeddiad heddiw ar Hinkley Point C yn newyddion da i sicrwydd cyflenwad ynni glân.”

“Fe ddylai’r pwyslais yn awr fod ar weithredu gweledigaeth y Llywodraeth o raglen niwcliar ehangach ac fe rydym yn parhau i symud ymlaen gyda datblygiad Wylfa Newydd. ”

Mae Cwmni Horizon yn amcangyfrif y bydd y Wylfa Newydd yn cymryd naw blynedd i’w hadeiladu, gan gyflogi 850 o bobol yn ystod y cyfnod hwnnw.