Rhodri Talfan Davies
Fe fydd adrannau comisiynu teledu, radio ac arlein BBC Cymru yn uno am y tro cyntaf erioed, wrth i’r Gorfforaeth yng Nghymru orfod arbed hyd at £9m y flwyddyn dros y pum mlynedd nesa’.

Mae Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, wedi dweud wrth staff y BBC fod yn rhaid i’r sefydliad wneud hyn er mwyn byw o fewn cytundeb ffi’r drwydded – targed o 2% o arbedion y flwyddyn – er bod disgwyl cadarnhad o fuddsoddiad newydd yn ddiweddarach eleni.

Mae disgwyl i’r newidiadau i’r system gomisiynu weld BBC Cymru yn cyflymu datblygiad ei gynnwys digidol ac estyn allan at bobol ifanc, yn ogystal â:

– Penodi Pennaeth Comisiynu newydd i ganolbwyntio ar gomisiynu ar gyfer teledu ac arlein;

– Bydd y tîm Comisiynu newydd hefyd yn cynnwys golygyddion Radio Cymru a Radio Wales, fydd yn ymuno â Bwrdd BBC Cymru am y tro cyntaf.

“Mae’r newidiadau wedi eu cynllunio i wneud BBC Cymru yn fwy creadigol ac agored. Mae ein cynulleidfaoedd yn newid yn gyflym ac mae angen i ni wneud hefyd,” meddai Rhodri Talfan Davies.

“Rwy’n credu y bydd y newidiadu yma’n symleiddio ein ffyrdd o weithio, ein gallugoi i wneud penderfyniadau’n gynt a rhoi rhyddid i’n comisiynwyr i fentro mwy ac archwilio ffyrdd newydd o wasanaethu’n cynulleidfaoedd.”

Uno timau marchnata a digidol

Fe gyhoeddodd hefyd y byddai timau digidol a marchnata BBC Cymru yn uno am y tro cyntaf, er mwyn cryfhau’r ffocws ar arloesi, technoleg a mewnwelediad i’r gynulleidfa.

Wrth amlinellu’r sialens ariannol, dywedodd Rhodri Talfan Davies fod disgwyl i ad-leoliad BBC Cymru i’w gartref newydd yn y Sgwar Canolog yng nghanol dinas Caerdydd yn 2019 gyflwyno arbedion arwyddocaol fyddai’n cyfrannu hyd at £3m o’r targed arbedion. Cyhoeddodd gynlluniau hefyd i greu arbedion rheoli, wrth i chwe swydd uwch reoli gael eu colli, ac i dair swydd newydd gael eu creu.

Dywedodd wrth staff ei fod yn gobeithio cadw’r arbedion ym meysydd cynnwys i oddeutu £3m dros y pum mlynedd, ac y byddai unrhyw fuddsoddiad newydd a gaiff ei sicrhau yn cael ei sianelu i raglenni Saesneg a gwasanaethau newyddion.

“Yr egwyddor, bob tro, fydd i warchod ein gwasanaethau gymaint â phosibl gan leihau’r effaith ar ein cynulleidfaoedd,” meddai Rhodri Talfan Dacvies. “Felly, fe fyddwn, wrth gwrs yn gwthio’n effeithlonrwydd yn galetach.”