Yn ei anerchiad olaf yn Llywydd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, mae Archesgob Cymru yn canolbwyntio ar gyfunrhywiaeth a sut y gall straeon o’r Beibl ein helpu i ddeall o’r newydd berthnasau un rhyw.

Mewn cyfarfod arbennig o’r Corff Llywodraethol ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant y prynhawn yma, fe fydd Dr Barry Morgan yn cymharu dehongliadau Beiblaidd o berthnasoedd un rhyw gyda dehongliadau o gaethwasiaeth.

Mae’n dweud fod caethwasiaeth wedi’i amddiffyn gan yr Eglwys ar un cyfnod, ond, meddai, “yn yr un modd ag y newidiodd y farn am hynny, gall barn yr Eglwys am berthnasoedd un rhyw hefyd newid.”

Dehongli ‘mewn mwy nag un ffordd’

“Arwyddocâd hyn i gyd yw na ellir dadlau fod yna un ffordd draddodiadol o ddehongli’r Ysgrythur sy’n wir ac uniongred ac mai adolygiadaeth fodern, wedi ei gyflyru’n ddiwylliannol, yw popeth arall,” meddai Dr Barry Morgan yn ei anerchiad.

“O dderbyn fod modd dehongli pob un o’r darnau yr honnir eu bod yn ymwneud â chyfunrhywiaeth mewn mwy nag un ffordd, deuwn at y cwestiwn sylfaenol hwn: o gymryd y Beibl yn ei gyfanrwydd, a allwn ddod i’r un casgliadau ynghylch perthnasau ymroddedig, ffyddlon, cariadus rhwng rhai o’r un rhyw ag y daethom iddyn nhw ynghylch caethwasiaeth?”

Mae modd darllen ei anerchiad yn llawn ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.

Ddiwedd mis Awst, fe gyhoeddodd Dr Barry Morgan ei fod yn ymddeol fel Archesgob Cymru ar ôl bron i 14 blynedd o wasanaeth.