Mae’r gwasanaethau brys yn parhau i chwilio am ddynes 68 oed sydd ar goll yn ardal Machynlleth.

Dywed llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys fod y ddynes, Agnes De Graaf, wedi ei gweld ddiwethaf rhwng 4 a 5.30yh nos Sul, Medi 11.

Mae hofrennydd yr heddlu a Gwylwyr y Glannau wedi bod yn edrych amdani.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am ei lleoliad gysylltu â’r heddlu ar 101.