Llun: Cymdeithas yr Iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cymryd cam ymlaen eisoes ers cyhoeddi heddiw eu bwriad i gynnal her gyfreithiol i ddileu Cymraeg Ail Iaith – a hynny drwy lansio apêl ariannol ar-lein i ariannu’r broses.

Bwriad y mudiad yw herio penderfyniad y corff Cymwysterau Cymru a ddywedodd ym mis Gorffennaf eleni eu bod am barhau i addysgu Cymraeg Ail Iaith yn hytrach na symud at un cymhwyster ar gyfer pob disgybl.

Ond, mae’r penderfyniad hwnnw’n mynd yn erbyn adroddiad gan yr Athro Sioned Davies dair blynedd yn ôl yn argymell gwaredu ag addysgu Cymraeg Ail Iaith.

Ac mae’r syniad o waredu â Chymraeg Ail Iaith wedi’i groesawu gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fis Rhagfyr y llynedd.

‘Llesteirio uchelgais’

Yn ôl Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg y Gymdeithas: “Mae’r gyfundrefn hon [Cymraeg Ail Iaith] yn amddifadu oddeutu 27,000, neu 80%, o’n plant a phobl ifanc bob blwyddyn o’r gallu i fwynhau, i gyfathrebu ac i weithio yn Gymraeg.

“Ni ddylem lesteirio uchelgais yr un plentyn yn ein gwlad. Un cam tuag at y nod yw bod pob un, pa bynnag ysgol y maen nhw’n ei mynychu, yn cael eu dysgu ar yr un continwwm ac yn sefyll arholiad ar gyfer yr un cymhwyster,” meddai.

Ychwanegodd: “Rydyn ni nawr yn ystyried y posibiliad o herio’r penderfyniad drwy’r llysoedd, gan bod Cymwysterau Cymru’n gweithredu’n groes i safbwynt swyddogol y Llywodraeth ac yn groes i fwyafrif yr ymatebion i’w ymgynghoriad.”

Mae modd dilyn yr apêl yma.