Llun: PA
Mae adroddiad newydd wedi datgelu mai Sir Fynwy yw’r lle gorau yng Nghymru i ferched ifanc gael eu magu ac mai Merthyr Tudful yw’r gwaethaf.

Mae adroddiad y sefydliad Plan International UK yn dangos bod anghyfartaledd mawr rhwng siroedd y wlad – ar ôl ystyried ffactorau fel tlodi ymysg plant, disgwyliad oes, cyfraddau beichiogrwydd, canlyniadau ysgol a faint o ferched sydd ddim mewn gwaith na hyfforddiant.

Roedd yr arbenigwyr y tu ôl i’r gwaith hefyd yn edrych ar ffigyrau gan luoedd heddlu ynglŷn â throseddau sy’n cael eu cyflawni yn erbyn merched, gan gynnwys troseddau rhywiol a thrais yn y cartref.

Am bob 1,000 o ferched, fe gafodd 3.61% eu cam-drin o fewn ffiniau Heddlu De Cymru a 3.20% yn ardal Heddlu Gwent.

Dim ond Swydd Gaerhirfryn (5.11%) a Manceinion (3.69%) oedd yn uwch ar y rhestr o ystyried Cymru a Lloegr.

Chwarae teg

 “Fe welwyd yn yr adroddiad nad yw Prydain, ar y cyfan, yn rhoi chwarae teg i ferched,” meddai Lucy Russell, prif awdur y gwaith.

“Er mai dyma un o’r llefydd mwyaf cyfoethog, datblygedig yn y byd, nid yw merched yn cael hawliau a chyfleoedd bywyd cyfartal.”

Dyma restr o’r awdurdodau gorau a’r gwaethaf, yn ôl Plan International UK:

Gorau

Gwaethaf

1 Sir Fynwy 12 Castell Nedd Port Talbot
2 Powys 13 Dinbych
3 Morgannwg 14 Wrecsam
4 Ceredigion 15 Casnewydd
5 Gwynedd 16 Torfaen
6 Sir Y Fflint 17 Blaenau Gwent
7 Abertawe 18 Rhondda, Cynon Taf
8 Caerfyrddin 19 Casnewydd
9 Ynys Môn 20 Caerffili
10 Sir Benfro 21 Caerdydd
11 Conwy 22 Merthyr Tudful