Aled Siôn Davies (Llun: Bob Martin IOS/PA)
Mae Aled Siôn Davies wedi ennill medal aur yn y siot yn nosbarth F42 yn y Gemau Paralympaidd yn Rio.

Fe dorrodd y record Baralympaidd gyda’i drydydd tafliad (15.97 metr), a hynny ar ôl tafliadau o 14.85 metr a 15.31 metr – y ddau dafliad yna hefyd yn record Baralympaidd.

Roedd ei dafliad gorau ychydig yn brin o’i record byd, 16.13 metr (yn Grand Prix yr IPC yn Arizona ym mis Mai).

Sajad Mohammadian o Iran oedd yn ail gyda thafliad gorau o 14.31 metr – 1.66 metr yn llai na’r Cymro Cymraeg, ond ei dafliad gorau’r tymor hwn.

Tyrone Pillay o Dde Affrica enillodd y fedal efydd gyda thafliad gorau o 13.59 metr.

Mae ei fedal aur ddiweddaraf yn un i’w hychwanegu at ei fedal aur yn y ddisgen yng Ngemau Paralympaidd Llundain yn 2012.