Mae cydlynydd y grŵp ymgyrchu Pobl Atal Wylfa B (PAWB) wedi anfon cwyn swyddogol at swyddfa’r Arolygiaeth Gynllunio am gyfarfod a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf heb offer cyfieithu i’r Gymraeg.

Bwriad y cyfarfod gan yr Arolygiaeth Gynllunio, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ebeneser, Llangefni, ar Fedi 6 oedd amlygu’r cynlluniau datblygu tai mewn perthynas â phrosiect Wylfa Newydd.

Ond, dywedodd Dylan Morgan ar ran PAWB, nad oedd offer cyfieithu wedi’i ddarparu ac, am hynny, fe wnaethon nhw anfon cwynion at Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yr wythnos ddiwethaf.

‘Anfaddeuol’

Esboniodd Dylan Morgan fod yr Arolygiaeth Gynllunio wedi trefnu’r cyfarfod “ar frys” ac mai dyna oedd eu rheswm am beidio â darparu offer cyfieithu, a’u bod wedi penderfynu parhau â’r cyfarfod fodd bynnag.

“Cerddodd 18 ohonom, gan gynnwys ein Aelod Cynulliad, Rhun ap Iorwerth, allan o’r ystafell gan adael rhyw ddwsin ar ôl i wrando ar y cyflwyniad,” meddai.

Yn ei lythyr dywedodd, “Dadl y siaradwyr Cymraeg oedd na fyddai eu cwestiynau a’u sylwadau yn cael eu cyfieithu mewn dull proffesiynol i aelodau di-gymraeg y gynulleidfa a’ch tîm chi.”

Esboniodd hefyd fod un aelod o staff ar gael i gyfieithu sylwadau a chwestiynau ac nad oedd y trefniant hwnnw’n dderbyniol.

“Yn gryno gwadwyd ein hawliau ieithyddol cyfreithiol i ni gan gorff cyhoeddus sy’n gweithredu yng Nghymru, ac mae hynny’n anfaddeuol.”

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb yr Arolygiaeth Gynllunio.