Roedd yr Athro Sioned Davies wedi galw am newidiadau 'brys', gan gynnwys cael gwared â'r arferiad o ddysgu'r Gymraeg fel 'ail iaith'Llun: PA
Mae mudiad iaith wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cynnal her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad i gadw’r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith – gan honni ei fod yn mynd yn groes i bolisi’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn galw am gymorth ariannol gan y cyhoedd er mwyn talu am y costau cyfreithiol.

Dair blynedd yn ôl, fe wnaeth adroddiad gan yr Athro Sioned Davies alw am newidiadau ‘brys’, gan gynnwys cael gwared â’r arferiad o ddysgu’r Gymraeg fel ‘ail iaith’. Yn lle hynny, roedd hi’n awgrymu  symud at un continwwm o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gynyddol ym mhob ysgol.

Ond mae’r mudiad yn dweud nad oes digon wedi cael ei wneud fel ymateb i’r sylwadau a bod y system bresennol “yn fethiant”.

Polisi

Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni bod Carwyn Jones wedi cydnabod sylwadau’r Athro Sioned Davies mewn llythyr fis Rhagfyr diwetha’ gan ddweud ei fod “o’r farn bod y cysyniad ‘Cymraeg fel ail iaith’ yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol.”

Fe wnaeth ymgynghoriad gan Gymwysterau Cymru am y mater ddod i’r casgliad y dylid dileu TGAU Cymraeg Ail Iaith hefyd.

Er gwaethaf yr ymateb a pholisi’r Llywodraeth, cyhoeddodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, bod y corff am gadw’r cymhwyster.

‘Amddifadu disgyblion’

Wrth esbonio’r penderfyniad, dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod angen “newidiadau radical” i’r system.

“Mae tuag 80% o’n pobol ifanc yn cael eu hamddifadu o’r Gymraeg bob blwyddyn. Mae pawb yn derbyn bod angen newidiadau radical, gan fod y system bresennol yn fethiant.

“Mae Cymwysterau Cymru wedi anwybyddu polisi’r Prif Weinidog a mwyafrif helaeth yr ymatebion i’w ymgynghoriad ei hunan.

“Yn y tair blynedd ers cyhoeddiad adroddiad ‘brys’ Yr Athro Davies, does braidd dim byd wedi newid. Mae’n hanfodol bod dysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn dod i ben yn 2018 gan sefydlu un cymhwyster cyfun i bob disgybl yn ei le,” meddai.  

Bydd rali flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddydd Sadwrn, 8 Hydref yn Llangefni, Ynys Môn, yn canolbwyntio ar alw am addysg Gymraeg i bawb.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.