Mae cynnydd o 28% wedi bod yn nifer y plant a phobol ifanc yng Nghymru sy’n cymryd tabledi gwrth iselder dros y degawd diwetha’, yn ôl arolwg newydd.

Fe ddaeth i’r amlwg yn ystod yr ymchwil gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe bod un o bob 10 o bobol 6-18 oed bellach yn dioddef rhyw fath o broblem iechyd meddwl, gan gynnwys iselder ysbryd a gorbryder.

Gwelwyd hefyd bod presgripsiynau heb drwydded yn cael eu darparu ar gyfer citalopram, y tu allan i’r canllawiau cyfredol, er gwaethaf y ffaith bod gorddos o’r cyffur hwn yn wenwynol.

Bu tîm y brifysgol, dan arweinid yr Athro Ann John, yn astudio data gan 358,000 o gleifion a oedd yn byw yng Nghymru rhwng 2002 a 2013. Darparwyd y data gan feddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill y Gwasanaeth Iechyd.

Canfyddiadau

Prif ganfyddiadau’r ymchwil oedd:

  • Roedd cynnydd sylweddol o 28% mewn presgripsiynau ar gyfer gwrthiselyddion, ymhlith y glasoed hŷn yn bennaf.
  • Bu gostyngiad cyson o ychydig dros chwarter mewn achosion o ddiagnosis iselder ysbryd, er bod symptomau iselder ysbryd wedi mwy na dyblu.
  • Roedd presgripsiynau heb drwydded yn cael eu darparu ar gyfer citalopram, y tu allan i’r canllawiau cyfredol, er gwaethaf y ffaith hysbys bod gorddos o’r cyffur hwn yn wenwynol.
  • Roedd ychydig dros hanner y presgripsiynau newydd ar gyfer gwrthiselyddion yn gysylltiedig ag iselder ysbryd. Roedd y gweddill yn gysylltiedig â diagnosisau pethau megis pryder a phoen.

Strategaeth newydd

O ganlyniad i’r canfyddiadau, mae’r ymchwilwyr wedi galw am strategaethau newydd er mwyn rhoi arweiniad cyfredol ar gyfer rheoli iselder ysbryd ymhlith plant a phobl ifanc.

Mae angen hefyd i wella hyfforddiant meddygon teulu, yn ôl Dr Ann John, Athro Cysylltiol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:

“Mae angen i ni sicrhau bod meddygon teulu wedi’u hyfforddi i wirioneddol ddeall bywydau a hwyliau pobol ifanc, yn ogystal ag adnabod yr arwyddion rhybudd. I rai, gall fod yn briodol eu sicrhau bod eu teimladau yn gyson â phrofiad dynol normal.

“I eraill, efallai mai therapïau siarad fyddai’r opsiwn gorau oherwydd bod tystiolaeth yn dangos y gallant wella symptomau iselder meddwl ysgafn i gymedrol,” meddai.