Carwyn Jones am weld Cymru â sedd wrth fwrdd y trafodaethau
Heddiw, fe fydd Carwyn Jones yn dweud mai sicrhau lle Cymru o fewn marchnad sengl Ewrop ydi un o’i flaenoriaethau ar gyfer y wlad ar ôl Brexit.

Mae hefyd am “ddiwygio” y Deyrnas Unedig i fod yn undeb mwy “ffederal” a thrwy hynny, creu cysylltiadau cryfach gyda’r Unol Daleithiau.

Fe fydd yn dweud hyn yn ddiweddarach ddydd Gwener mewn araith i’r Chicago Council on Global Affairs yn y ddinas honno yn America.

“Pe na bai Prydain yn medru cael mynediad at y farchnad sengl, bydd peryg o achosi niwed economaidd diangen i’n gwlad a’n pobol,” meddai Carwyn Jones.

“Fel Prif Weinidog Cymru, fy nghyfrifoldeb i yw diogelu buddiannau pobol Cymru. Does dim amheuaeth i’r refferendwm ar Ewrop roi ergyd i ni, ond mae gennym uchelgais fawr dros Gymru, ac mae fy ngweinyddiaeth yn benderfynol o’i chyflawni.”

‘Sedd wrth y bwrdd’

Nid yw Carwyn Jones am weld Cymru yn cael ei hanwybyddu yn y trafodaethau allweddol sydd i ddod, meddai:

“Os bydd hyn yn troi’n ddeialog dwy ffordd rhwng Brwsel a Llundain, bydd yn methu. Rhaid i Gaerdydd, Caeredin a Belfast gael seddi wrth y bwrdd.

“Beth bynnag yw’r cytundeb yn y pen draw, cyn ei dderbyn rhaid sicrhau cefnogaeth y pedair Senedd sydd bellach yn deddfu ar gyfer y Deyrnas Unedig.

“Os na fyddwn yn cymryd hyn o ddifri, does dim byd – hyd yn oed chwalu’r Deyrnas Unedig – yn amhosibl,” meddai Carwyn Jones wedyn. Gadewch i mi bwysleisio, dydw i ddim am weld hynny’n digwydd. Dim o gwbwl.

“Ond gallai sefyllfaoedd a oedd yn ymddangos yn ddim mwy na dychymyg gwleidyddol rhai blynyddoedd yn ôl gael eu gwireddu os na fyddwn yn gwneud y newidiadau radical sy’n angenrheidiol i osod cyfansoddiad y Deyrnas Unedig ar sylfaen gynaliadwy.”