Meri Huws
Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn “siomedig” bod Undeb Rygbi Cymru wedi “mynd yn ôl ar ei air” ar ôl cytuno i fabwysiadau Polisi Iaith Gymraeg a hybu’r iaith o fewn y gamp.

Daw’r sylw wedi i hysbyseb am swyddog y wasg newydd i’r undeb fethu a nodi bod y gallu i siarad neu ddeall Cymraeg yn rhywbeth fydd yn cael ei ystyried yn y broses benodi.

Yn ôl Meri Huws, fe wnaeth yr Undeb addo rhoi pwyslais ar y Gymraeg yn dilyn ymgynghoriad gyda’r Comisiynydd yn 2014, gan ddweud y byddai’n gwneud mwy i hybu’r iaith “ar y cae ac oddi arno”.

Cyn hynny, roedd unigolion a sefydliadau, gan gynnwys Dyfodol i’r Iaith, wedi bod yn galw ar y corff i wneud mwy o ddefnydd o’r iaith Gymraeg yn gyhoeddus.

Torri addewid

Wrth ymateb i’r swydd ddisgrifiad dan sylw, sy’n hysbysebu swydd gwerth tua £21,000 y flwyddyn,  dywedodd llefarydd ar ran y Comisiynydd y Gymraeg:

“Mewn cyfarfodydd â swyddogion y Comisiynydd mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg ac i fynd ati i recriwtio siaradwyr Cymraeg ar gyfer swyddi yn y maes cyfathrebu.

“Fe ddarparodd swyddfa’r Comisiynydd gyngor i’r Undeb ar sut i fynd ati i recriwtio staff dwyieithog.

“Mae’n siomedig gweld nad ydynt wedi glynu at eu haddewid yn swydd ddisgrifiad ar gyfer swyddog cyfryngau.”

Mae golwg360 wedi cysylltu gydag Undeb Rygbi sawl gwaith, ac yn parhau i ddisgwyl ymateb.