Guto Bebb, Is-Ysgrifennydd yn Swyddfa Cymru
Mae un o weinidogion Swyddfa Cymru wedi dweud wrth golwg360 y bydd adolygiad ar ddyfodol S4C yn gyfle i drafod datganoli maes darlledu i Gymru – er na fydd yr adolygiad ei hun yn mynd i’r afael â’r cwestiwn penodol hwnnw.

Yn ôl Guto Bebb, mae e “eto i gyfarfod neb o’r diwydiant teledu sydd eisiau datganoli darlledu”. Ond ychwanegodd y bydd y mater “yn gallu cael ei drafod yn yr un modd â phroses gyllido’r sianel, yn yr un modd â blaenoriaethau rheolaethol y sianel”.

Pwysleisiodd y dylai Cymdeithas yr Iaith gofio bod Llywodraeth Prydain wedi rhoi “mwy o sylw i S4C yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf nag sydd wedi bod yn ystod y 30 mlynedd cynt”, wrth i’r Gymdeithas alw am ddatganoli darlledu i Gymru, yn sgil y cyhoeddiad y bydd cyllideb y sianel genedlaethol o’r BBC yn cael ei rhewi am y pum mlynedd nesaf.

“Mae’r swm dan sylw (£74.5 miliwn y flwyddyn) yn rhywbeth fel dwy filiwn a hanner (o bunnoedd) yn uwch na’r cyfartaledd oedd wedi’i ddisgwyl,” meddai Aelod Seneddol Aberconwy, “ac mae’n llawer iawn gwell nag oedd S4C wedi’i ddisgwyl”.

Cyllid hir dymor y sianel

Ond mae Guto Bebb yn cydnabod bod yna benderfyniadau “tymor hir” i’w gwneud ynghylch cyllid y sianel, a fydd yn cael eu pennu yn adolygiad annibynnol Llywodraeth Prydain ar S4C yn 2017.

“… Roedd yna ddarogan y byddai cyllideb S4C yn cwympo’n sylweddol oherwydd cwymp cyllideb y BBC, dydy hynny ddim wedi digwydd… mae ‘na gwaith fel papur gwyn y BBC yn cael ei wneud fydd yn edrych ar sut mae cyllido’r sianel,” meddai.

“Yn y bôn, dw i’n credu ei bod yn anodd gweld hwn (cyhoeddiad y BBC ar gyllid S4C) fel dim byd ond newyddion adeiladol.”

Adolygiad “annibynnol, eang”

Cadarnhaodd y byddai adolygiad annibynnol S4C yn “drafodaeth annibynnol, eang” ar lawr gwlad ar ddyfodol S4C, ac ddim yn “fater o unigolion yn gwneud gwaith y tu ôl i ddrysau caeedig.”

“Rydan ni eisiau’r broses yma fod mor agored â’r broses sydd wedi bod yng nghyd-destun y BBC,” meddai wrth golwg360.

“Dydan ni ddim eto wedi cael trafodaeth annibynnol, eang, o sut mae S4C yn gweithredu ers i’r sianel gael ei sefydlu’n 1982.

“Felly mae’r cyfle yma yn dod a dw i’n credu y dylai Cymdeithas yr Iaith, tra’n nodi eu pryderon, hefyd fod yn onest a datgan bod ni’n rhoi mwy o sylw i S4C yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf nag sydd wedi bod yn ystod y 30 o flynyddoedd cynt.”

Ychwanegodd nad bwriad yr adolygiad yw “bygwth y sianel ond gweld yn union be ydy’r ddarpariaeth y mae S4C yn ei gynnig a be ydy blaenoriaethau o ran darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg wrth symud ymlaen.”