Cafodd tua 40,000 neu 3% o weithlu Cymru eu cyflogi ar gontract heb sicrwydd oriau rhwng mis Ebrill-Mehefin eleni.

Mae’r ffigwr wedi codi o 40,000, sef 2.8%, o’r un cyfnod y llynedd.

Wrth gyhoeddi’r ffigyrau diweddaraf, dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol mai busnesau mawr oedd y mwyaf tebygol o gynnig contractau heb sicrwydd oriau ac mai yn y diwydiant bwyd a llety oedd y ganran fwyaf.

Ar gyfartaledd, fe wnaeth person ar gontract heb sicrwydd weithio 25 awr yr wythnos yn y cyfnod dan sylw ac fe roedd 55% bobol oedd wedi’u cyflogi dan y drefn yn ferched.

Roedd cyfartaledd incwm gweithwyr llawn amser Cymru o Ebrill- Mehefin 2016 yn £498 yr wythnos, o’i gymharu â chyfartaledd o £594 yng ngwledydd Prydain.