Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn hysbysebu am swyddog y wasg newydd, ond ddim yn ystyried y gallu i siarad na deall Cymraeg yn fantais ar ei chyfer.

Yn ôl y swydd ddisgrifiad ar wefan UCR, fe fydd y swyddog yn gyfrifol am ‘gynorthwyo i greu strategaeth gyfathrebu’ ac mae gofyn i’r person llwyddiannus fod a ‘dealltwriaeth ac ymrwymiad i gyfleon cyfartal mewn chwaraeon ac yn y gweithle’.

Mae undeb hefyd yn gofyn i’r person llwyddiannus werthfawrogi gwerthodd yr undeb, sef, “Rhagoriaeth, Onestrwydd, Llwyddiant, Hyder, Teulu, Hiwmor” ond does yna ddim cyfeiriad at yr iaith Gymraeg.

Cyflog band 5 fydd y swyddog newydd yn ei dderbyn, sydd oddeutu £21,000 y flwyddyn.

Polisi Cymraeg

Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru fabwysiadu Polisi Iaith Gymraeg swyddogol a chyhoeddi fersiwn ddwyieithog o’i gwefan yn 2014. Dywedodd ar y pryd ei bod am sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio “ym maes rygbi – ar y cae ac oddi arno”.

Ychwanegodd yr y bydd y polisi’n sicrhau bod yr iaith yn cael ei hystyried ar draws pob agwedd ar fusnes a rygbi.

Daeth y polisi yn dilyn ymgynghoriad â Chomisiynydd y Gymraeg ac mae’n ymdrin â meysydd fel y wefan, cyhoeddiadau, cyfryngau cymdeithasol, protocolau ar gyfer ateb y ffôn a siarad yn gyhoeddus.

Cyn hynny, roedd unigolion a sefydliadau, gan gynnwys Dyfodol i’r Iaith, wedi bod yn galw ar Undeb Rygbi Cymru i wneud mwy o ddefnydd o’r iaith Gymraeg.

Y Tîm Cenedlaethol

Mae oddeutu 15 aelod o’r sgwad genedlaethol yn siarad Cymraeg, gan gynnwys Ken Owens, George North, Rhys Preistland, Scott Wiliams a Rhys Patchell.