David Hughes (Llun: 30 Park Place Chambers)
Mae bargyfreithiwr sy’n gweithio yng Nghaerdydd wedi dweud wrth ei gyd-dwrneiod bod angen mwy o farnwyr sy’n medru’r Gymraeg.

Yn y cylchgrawn cyfreithiol, Counsel, mae David Hughes yn tanlinellu’r ffaith fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, a bod gan y Cymry Cymraeg yr hawl i’w defnyddio mewn llysoedd barn.

Er bod academwyr, meddai, yn mynd i’r afael â’r angen am dermau cyfreithiol yn Gymraeg, mae yna “angen amlwg” am farnwyr sy’n medru siarad Cymraeg.

Mae Cymru yn wlad, meddai, nid rhanbarth, ac mae’n cyfeirio at y rheiny sy’n gweithio yng Nghaerdydd fel rhai sy’n gweithio mewn un o “ddwy brifddinas yn Lloegr a Chymru”.

“Mae ganddon ni iaith swyddogol – Cymraeg,” meddai David Hughes yn yr erthygl, “ac mae ganddon ni’r hawl i ddefnyddio’r iaith honno yhn y llys. Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig.

“Mae nifer o gydweithwyr i mi yn rhugl yn y Gymraeg, ac maen nhw’n gallu ymdrin ag achosion trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae yna angen amlwg am farnwyr Cymraeg…”

Gallwch ddarllen erthygl David Hughes yn Counsel yn llawn yn fan hyn.

Pwy ydi David Hughes?

Ers 2007, mae David Hughes yn gweithio o siamberi 30 Park Place, Caerdydd, a hynny ar ôl cyfnod yn gweithio yn Gibraltar. Mae’n rhugl mewn Sbaeneg, ac yn gallu cynnal sgwrs mewn Ffrangeg ac Eidaleg.

Mae David Hughes yn aelod o banel ymgynghorol Cynulliad Cymru ar faterion yn ymwneud â chyfraith hawlfraint deallusol, ac mae’n cynghori hefyd ar faterion yn ymwneud â phreifatrwydd a diogelu data.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel un o’r ychydig fargyfreithwyr y tu allan i Lundain sy’n gweithredu’n gyson yn y maes enllib a difrïo – ym maes gwefannau cymdeithasol, yn benodol.

Mae wedi rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Cynulliad Cymru, ar sefydlu trefn gyfreithiol annibynnol i Gymru, ac wedi cymryd rhan yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr un pwnc.