Pont Hafren (Llun: Wikipedia)
Heddiw, mae Pont Hafren yn cyrraedd ei phen-blwydd yn 50 oed.

Medi 8, 1966, oedd dyddiad agor y bont yn 1966. Roedd y gwaith adeiladu wedi cymryd tair blynedd a hanner, ar gost o £8m.

Bryd hynny, roedd yn bont arloesol, a’r bont grog ysgafnaf yn y byd. Roedd hi hefyd yn seithfed ar restr y pontydd hiraf yn y byd. Mae Pont Hafren wedi’i rhestru (Gradd I) ers Tachwedd, 1999.

Rhwng 1966 ac 1996, roedd y bont yn cario traffordd yr M4, ond pan ddaeth yr ail bont dros afon Hafren, fe gafodd y ffordd rhwng Olveston yn Lloegr a Magwyr yng Nghymru ei hail-enwi yr M48.