Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe y bydd cyllid S4C o’r BBC yn aros yr un fath tan o leiaf 2022, mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud nad yw hyn yn ddigon.

Er bod y cyhoeddiad yn cynnig “rhywfaint o sicrwydd ariannol am rai blynyddoedd” meddai’r Gymdeithas, mae hefyd yn golygu y bydd cyllideb S4C yn cael ei rhewi am bum mlynedd.

Dydd Mercher, fe gyhoeddodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, Rona Fairhead, y bydd y sianel yn parhau i dderbyn £74.5 miliwn y flwyddyn gan y gorfforaeth.

Ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae angen datganoli materion darlledu i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau hir oes i’r sianel genedlaethol.

“Mae toriadau llym eisoes wedi bod ac mae rhewi yn golygu bod rhagor o doriadau termau real ar y ffordd,” meddai Curon Wyn Davies, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith.

“Mae gwir angen cynllun sy’n mynd i adfer cyllideb i S4C i’r lefel cyn y dirwasgiad, nid drwy ddatganiadau fan hyn a fan draw gan y BBC yn Llundain ond drwy drafodaeth ddemocrataidd ac agored yng Nghymru.”

‘Hen bryd’ datganoli darlledu

Mae’r mudiad yn dweud ei bod am weld y Llywodraeth yn gosod “fformiwla ariannu mewn statud” i S4C, “a fyddai’n cynnig sicrwydd go iawn, diogelu annibyniaeth y sianel ac yn galluogi S4C i ehangu i fod yn fwy na darlledwr un sianel yn unig.”

“Cafodd S4C ei sefydlu o ganlyniad ymgyrchu hir gan bobl Cymru ac aberthodd nifer eu rhyddid drosti; nid lle swyddogion yn Llundain yw penderfynu ar ei dynged. Mae’n hen bryd i ddarlledu cael ei ddatganoli i Gymru,” ychwanegodd Curon Wyn Davies.

Fe wnaeth hefyd gwestiynu amseru datganiad y BBC, gan fod adolygiad annibynnol Llywodraeth Prydain ar gyllideb y sianel genedlaethol yn dal i fod ar y gweill.

“Mae’r datganiad yn dod ar adeg ryfedd: ble mae fe’n gadael adolygiad annibynnol y sianel mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu ei gynnal flwyddyn nesa? Beth yw diben yr adolygiad os yw rhan o gyllideb y sianel eisoes wedi ei phennu gan y BBC?”

Dyma ymateb llefarydd o Swyddfa Cymru:

“Roedd consensws trawsbleidiol o fewn Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi na ddylid datganoli darlledu, gan adlewyrchu argymhellion y Comisiwn Silk. Mae statws a chyllid S4C yn cael eu diogelu o dan Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae’r sianel yn parhau i ffynnu.”