Mae’r BBC wedi rhoi gwybod i Awdurdod S4C heddiw y bydd cyllid y sianel Gymraeg yn aros yr un peth tan 2022, sef £74.5 miliwn y flwyddyn.

Ysgrifennodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC Rona Fairhead at Gadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, i ddweud y byddai’r cyllid yn parhau hyd at ddiwedd y cytundeb presennol a’r ffi drwydded.

Mae lefel y cyllid hyd at 2022 wedi ei osod gryn dipyn yn uwch na’r lefel gyfartalog a gytunwyd gan y BBC gyda Changhellor y Trysorlys a’r Ysgrifennydd Gwladol yng Ngorffennaf 2015.

‘Y peth iawn’

Yn ei llythyr at Huw Jones, dywed Rona Fairhead:

“Rwy’n ystyried mai dyma’r peth iawn i’w wneud i gydnabod y rôl bwysig sydd gan S4C ym mywyd siaradwyr Cymraeg sy’n talu ffi’r drwydded, ac fel sylfaen gadarn i Awdurdod S4C a Bwrdd newydd y BBC gydweithio yn unol â hi, a chynnal y berthynas hynod gadarnhaol y mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi’i mwynhau gyda chi a’ch cydweithwyr.”

Yn ogystal mae’r Ymddiriedolaeth wedi gofyn am i’r setliad cyllido newydd hwn gael ei gynnwys a’i nodi o fewn Cytundeb Fframwaith newydd y BBC, sy’n eistedd ochr yn ochr â Siarter nesaf y BBC.

Gellir darllen y llythyr llawn yma:  http://www.bbc.co.uk/bbctrust/news/press_releases/2016/s4c_funding_agreement

Cyhoeddwyd y bydd S4C yn symud ei phencadlys o Gaerdydd i Gaerfyrddin erbyn 2018.