Mae Aelodau Seneddol o Wynedd wedi croesawu ymrwymiad o’r newydd gan gwmni ffôn Vodafone i wella signal a darpariaeth symudol ar draws Gwynedd.

Yn eu cyfarfod gyda swyddogion Vodafone yn San Steffan heddiw, fe wnaeth Hywel Williams a Liz Saville Roberts o Blaid Cymru wthio am welliannau sylweddol i’r gwasanaeth ffon, gan ddweud bod y trefniadau presennol yn “annerbyniol”.

Cafwyd addewid i wella signal cyffredinol yn ogystal â darpariaeth 3G  a 4G mewn mannau gwledig fel rhan o fuddsoddiad newydd gwerth £2 biliwn gan Vodafone.

Ymgyrch hir

Mae’r ddau wleidydd wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i wella’r ddarpariaeth.

“Roedd ein cyfarfod diweddaraf gyda Vodafone yn adeiladol ac yr wyf yn croesawu eu hymrwymiad o’r newydd i ddarparu fy etholwyr gyda gwasanaeth mwy dibynadwy yn enwedig eu menter i wella signal mewn ardaloedd digyswllt”, meddai Hywel Williams, AS ardal Arfon.

Ychwanegodd Graham Dunn, Uwch Reolwr Cysylltiadau Llywodraethol Vodafone:

“Dylai ein buddsoddiad olygu y bydd y mwyafrif o bobl yn yr ardal yn elwa o fynediad at wasanaethau rhyngrwyd symudol.

“I  gyflawni’r amcanion hyn, bydd angen cyfuniad o ganiatâd cynllunio ar gyfer safleoedd, cytundebau cynaliadwy gyda darparwyr safle a mynediad at gysylltiadau ffibr o ansawdd da.”