Mae dau ddyn wedi eu cludo i’r ysbyty y bore yma ar ôl cael eu hanafu yn ZipWorld ym Methesda.

Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans wedi cadarnhau wrth golwg360 eu bod nhw wedi derbyn galwad am 8.30yb, a bod dwy ambiwlans wedi eu hanfon i’r safle sy’n gartre’ i’r weiren wîb.

Cafodd y ddau ddyn eu cludo i Ysbyty Gwynedd lle maen nhw’n derbyn triniaeth am anafiadau, ond nid yw eu bywydau mewn perygl.

Daw’r digwyddiad diweddaraf ychydig ddyddiau ar ôl i ddyn farw yn dilyn trawiad ar y galon yno ddydd Sul.

Cafodd yr atyniad Velocity ei gau y bore yma yn dilyn y digwyddiad, ond mae bellach wedi ailagor.