Mae dannedd gosod yn un eitem gafodd ei roi i mewn i swyddfa eiddo coll yr Eisteddfod Genedlaethol eleni – a does yna neb byth wedi dod yn eu blaenau i’w hawlio nhw.

Cafodd yr ŵyl eleni ei gynnal yn Y Fenni ac mae swyddfa’r Eisteddfod wedi mynd ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn apelio ar bobol i ofyn am eu heiddo yn ôl.

Ymysg eitemau eraill sydd yn eu meddiant mae dillad, esgidiau, goriadau, waledi a bagiau di-ri.

Meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod y bydd y cyfan yn cael eu cadw yn swyddfa’r Eisteddfod tan ddechrau Tachwedd pan fydd y dillad yn cael eu rhoi i elusen.

Mae unrhyw un sydd wedi colli eiddo yn yr Eisteddfod yn cael eu hannog i ebostio gwyb@eisteddfod.org.uk gyda’u manylion a manylion yr eiddo maen nhw wedi ei golli.