Safle Ysgol Dyffryn Teifi (Llun: Plant y Dyffryn)
Mae Cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu gohirio’r broses o werthu safle Ysgol Dyffryn Teifi yn Llandysul heddiw.

Roedd disgwyl i’r safle i fynd ar y farchnad agored ar Fedi 30 am amcan bris o £250,000-£300,000.

Ond, yn dilyn galwadau gan ymgyrchwyr lleol mae’r Cabinet wedi penderfynu gohirio’r broses gan gyflwyno dyddiad cau newydd o fis Ionawr 2017 i bobol gyflwyno eu ceisiadau.

Croesawu

Un fu yn y cyfarfod heddiw oedd Bethan Williams, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith.

Croesawodd benderfyniad y Cyngor i arafu’r broses, gan ddweud fod cyfle yn awr i’r gymuned leol sydd wedi dod ynghyd o dan enw Plant y Dyffryn i gasglu cyfranddaliadau i brynu’r safle ar y cyd.

Criw o gyn-ddisgyblion a phobol leol Llandysul yw Plant y Dyffryn, ac fe fu rhai yn protestio tu allan i swyddfeydd y Cyngor bore yma i ddwyn perswâd ar y Cabinet.

‘Colli cyfle’

Er hyn, mae Bethan Williams hefyd yn dweud fod Cyngor Sir Ceredigion wedi “colli cyfle”.

“Un pryder yw bod y safle yn mynd i fod ar y farchnad agored, felly does dim sicrwydd a fydd y gymuned leol yn cael unrhyw flaenoriaeth,” meddai wrth Golwg360.

“Roedd gan y Cyngor gyfle i sicrhau buddiannau’r ardal, oherwydd gyda mwy a mwy yn dewis gadael cymunedau gwledig, mae ymgyrch Plant y Dyffryn yn rhoi rheswm i bobl aros, ac fe allai’r Cyngor fod wedi cefnogi hynny,” meddai wedyn.

Llywodraeth

Dywedodd hefyd fod Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ddechrau’r wythnos i gefnogi’r ymgyrch gan dynnu sylw at y ffaith fod ardal Dyffryn Teifi wedi’i dynodi yn ardal Twf gan y Llywodraeth yn 2013.

Er hyn, dywedodd fod ymateb Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, i’w cais yn un “siomedig.”

“Mae’n cefnogi’r syniad ac yn cynnig cymorth ymarferol ar sut i wneud cais, ond mewn gwirionedd, maen nhw [y Llywodraeth] yn golchi eu dwylo’n llwyr o’r sefyllfa.”