Ceir yn sownd ym maes parcio Gwyl Rhif 6 (Llun: Golwg360)
Mae disgwyl i’r gwaith o glirio gweddill y ceir sy’n parhau yn sownd ym maes parcio Gŵyl Rhif 6 ger Portmeirion barhau heddiw.

Yn ôl trefnwyr yr ŵyl, mae 90% o’r ceir a oedd ar y safle bellach wedi cael eu symud drwy gymorth tractorau ffermwyr lleol.

Bu rhaid i 160 o bobol aros yn yr ardal nos Sul, gan ddefnyddio cyfleusterau Canolfan Hamdden Glaslyn ym Mhorthmadog dros nos.

Ni wnaeth neb aros yn y ganolfan honno neithiwr, ond mae lle i gredu bod rhai wedi aros mewn gwestai lleol, ac eraill wedi gadael eu ceir ar y safle i gwmnïau cludo preifat eu casglu ymhen amser.

‘Angen ymchwiliad’

Daw’r trafferthion wedi penwythnos o law trwm gyda’r caeau a ddefnyddiwyd fel meysydd parcio yn mynd o dan ddŵr.

Ac mae dau gynghorydd lleol wedi dweud fod angen cynnal ymchwiliad annibynnol i ganfod pam fod asiantaethau rheoli llifogydd yr ardal wedi caniatáu i drefnwyr yr ŵyl ddefnyddio caeau sy’n dueddol o orlifo fel meysydd parcio.

Yn ôl y cynghorwyr Jason Humphreys ac Alwyn Gruffydd o Lais Gwynedd, mae’r trafferthion yn amlygu bod angen i Gyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru, sy’n gyd-aelodau o Grŵp Ymgynghorol Llifogydd Lleol, ddefnyddio eu grymoedd cyfreithiol i wahardd parcio ar y safle.