Cyflwynwyr Radio Cymru Mwy, top chwith, Elan Evans, Gwennan Mair, Caryl Parry Jones, Steffan Alun. Llun: BBC Cymru
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd Ifan Evans, Huw Stephens, Dylan Ebenezer a Caryl Parry Jones ymhlith cyflwynwyr newydd yr orsaf dros dro fydd yn cael ei threialu ar-lein tan y flwyddyn newydd – Radio Cymru Mwy.

Yn ogystal, fe fydd yr orsaf yn cynnig cyfleoedd i gyflwynwyr newydd gan gynnwys y DJ o Gaerdydd, Elan Evans, yr actores a’r gyflwynwraig Lisa Angharad, y ddeuawd Carl ac Alun sy’n gwirioni ar bêl-droed, yr artist theatr o Lan Ffestiniog Gwennan Mair, a’r comedïwr o Abertawe, Steffan Alun.

Amserlen

Bydd modd gwrando ar yr orsaf newydd drwy wefan Radio Cymru, ar yr ap BBC iPlayer Radio ac fel dewis arall ar radio digidol DAB yn y de ddwyrain.

Fe fydd Radio Cymru Mwy yn cynnig sioe frecwast o 7yb ymlaen bob bore, ac yna rhaglenni amrywiol rhwng 10am a 12pm.

Ar ddyddiau Mawrth ac Iau fe fydd rhaglenni yn llawn cerddoriaeth ac ar ddydd Mercher Gwennan Mair o Lan Ffestiniog fydd wrth y llyw yn ystod y slot 10yb i 12yp.

Yna, ar ddydd Gwener bydd y comedïwr Steffan Alun yn ymuno â Kevin Davies i edrych yn ôl ar rai o straeon llai amlwg yr wythnos.

A thrwy’r cyfan, fe fydd amserlen arferol Radio Cymru yn parhau fel arfer.

‘Cyfle i arbrofi’

Cynllun peilot yw Radio Cymru Mwy sy’n cael ei dreialu am dri mis ac a fydd yn arwain at ddathliadau Radio Cymru yn ddeugain oed ym mis Ionawr.

“Wrth i ni baratoi at ddathlu pen-blwydd Radio Cymru’n ddeugain oed yn 2017, mae’n wych bod gyda ni gyfle i arbrofi, arloesi a thorri tir newydd,” meddai Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru.

“Rwy’n falch ein bod ni’n gallu dod â chyfuniad o dalent newydd sbon ynghyd â rhai o leisiau mwyaf poblogaidd Cymru i gynnig mwy o ddewis i’r gynulleidfa.

“Mae’n holl bwysig i ni ein bod yn cael clywed barn y gwrandawyr felly rhowch wybod eich barn am yr hyn fyddwch chi’n ei glywed drwy’r wefan a chyfryngau cymdeithasol,” ychwanegodd.

‘Popeth i bawb’

Cafodd y cyhoeddiad am Radio Cymru Mwy ei groesawu ym mis Mai ond mae mudiad iaith wedi galw ar y BBC i wneud y trefniant hwn yn un parhaol, gan ddweud na all un orsaf fod yn “bopeth i bawb.”

Dywedodd Curon Davies ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y pryd eu bod yn croesawu’r cyhoeddiad gan fod “angen rhagor o gynnwys digidol amrywiol yn y Gymraeg, ar gyfer pobl ifanc yn enwedig.

“Gall un orsaf ddim bod yn bopeth i bawb, felly gobeithio bydd y gwasanaeth newydd yn golygu y bydd rhagor o amrywiaeth.”