Prifysgol Aberystwyth
Fe fydd yn rhaid i Bennaeth newydd Prifysgol Aberystwyth allu deall a sgwrsio yn Gymraeg, ynghyd â gwneud cyflwyniadau clir yn yr iaith, yn ôl manylion y swydd sydd wedi’i hysbysebu’r wythnos hon.

Mae’r pecyn gwybodaeth ar gyfer swydd Is-Ganghellor y Coleg Ger y Lli yn nodi’n glir bod disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus allu deall Cymraeg mewn cyfarfodydd, mewn sgyrsiau wyneb yn wyneb a thros y ffôn, a bod hynny’n flaenoriaeth.

Mae’r manylion yn dweud bod angen Safon D1 yn y Gymraeg (neu Lefel 3/0), sy’n golygu:

• y gallu i ddeall popeth ar y ffôn, teledu, mewn cyfarfod;

• y gallu i siarad yn hyderus am rychwant o bynciau;

• y gallu i wneud cyflwyniadau clir ar bynciau cyfarwydd.

‘Ymrwymedig’ 

“Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwbl ymrwymedig i’w dyletswydd i hyrwyddo ac annog yr iaith a’r diwylliant Cymraeg, ac mae’n disgwyl i unrhyw ymgeisydd am swydd yr Is-Ganghellor gydnabod a chefnogi’r ymrwymiad hwn,” meddai’r pecyn gwybodaeth sydd ar gael gan y cwmni recriwtio Perrett Laver yn Llundain.

“Yn unol â Chynllun Iaith Gymraeg y Brifysgol, mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal, er mwyn rhoi i bob unigolyn – boed staff, myfyrwyr neu’r cyhoedd – yr hawl a’r cyfle i gyfathrebu a’r sefydliad, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn eu hiaith ddewisol.

“Cynhelir cyfarfodydd ar y lefel uchaf yn y Brifysgol yn ddwyieithog,” meddai’r pecyn wedyn.

“Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Rhaid felly i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gysurus yn gweithio mewn sefydliad dwyieithog.”

Mae pecyn gwybodaeth swydd Prifathro Prifysgol Aberystwyth yn nodi fod y ganran o fyfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg yno gyda’r lefel ucha’ yng Nghymru. Yn ystod 2014–15, astudiodd 5.68% o boblogaeth y myfyrwyr elfen o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd myfyrwyr wedi cwestiynu rôl y cwmni Perrett Laver, gan godi pryderon dros flaenoriaeth y Brifysgol i benodi Is-ganghellor sy’n siarad Cymraeg.

 

O ran natur…

O ran y math o unigolyn y maen nhw’n chwilio amdano/i i lenwi’r uchel swydd – nad ydi ei chyflog yn cael ei nodi yn y pecyn gwybodaeth – mae angen bod yn “angerddol ac yn uchelgeisiol” ynglŷn â dyfodol y Brifysgol, gydag “ymrwymiad cadarn i barhau a chyfoethogi ei threftadaeth falch”.

Mae hefyd angen gweledigaeth glir a gallu i ysbrydoli eraill a rhoi syniadau ar waith, a “crebwyll ardderchog a sensitifrwydd gwleidyddol”.

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn olynu’r Athro April McMahon, a ddaeth i Aberystwyth ym mis Awst 2011 am dymor penodol o bum mlynedd.

Er i’r Albanes wneud argraff dda ar y cychwyn trwy fynd ati i ddysgu Cymraeg, fe ddaeth yn amhoblogaidd gyda staff a myfyrwyr tua diwedd ei chyfnod, gyda rhai’n mynd mor bell â dweud ei bod yn rhedeg y coleg “fel unben”.