Mae dau blismon wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng un o gerbydau Heddlu’r De â lori’r Post Brenhinol yn oriau man y bore ma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle ar Heol Penarth yn ardal Grangetown, Caerdydd am tua 3:30yb dydd Llun, 5 Medi.

Nid yw’r ddau blismon wedi’u hanafu’n ddifrifol.

Mae adroddiadau bod Heol Penarth wedi ail-agor erbyn hyn ond mae’r heddlu yn cynghori pobol i osgoi’r ardal wrth i waith clirio barhau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: “Mae’r ddau berson oedd yng nghar yr heddlu wedi cael eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle maen nhw wedi derbyn triniaeth ar gyfer anafiadau sydd ddim yn rhai difrifol.”