Ceir yn sownd yn Ngwyl Rhif 6 (Llun: Richard Howells)
Mae trefnwyr Gŵyl Rhif 6 wedi ymddiheuro am y drafferth sydd wedi’i achosi wrth i gannoedd o geir barhau ar y safle yn dilyn glaw trwm dros y penwythnos.

Mewn datganiad y bore yma, mae’r trefnwyr yn cadarnhau bod y maes parcio pellaf yn parhau’n “anhygyrch” ac y dylai perchnogion ceir yn y maes parcio hwn aros ar y safle ym Mhortmeirion am ragor o gyfarwyddiadau.

Mae’r trefnwyr hefyd yn ychwanegu bod cerbydau ychwanegol wrth law i gynorthwyo’r cerbydau i ddod allan o’r cae, ond eu bod yn disgwyl oedi hir.

Mae rhai wedi cael eu tynnu allan gan dractorau ffermwyr lleol.

Ac ar wefannau cymdeithasol mae rhai yn cwyno am oedi o fwy nag wyth awr i adael y safle neithiwr, nos Sul Medi 4.

Gŵyl Rhif 6 yw un o ddigwyddiadau mwyaf gogledd Cymru, a wnaeth yr holl docynnau ar gyfer y penwythnos werthu o flaen llaw wrth iddyn nhw ddisgwyl 15,000 o bobl yno.

Roedd y prif artistiaid yn cynnwys  Super Furry Animals, Noel Gallagher’s High Flying Birds, Hot Chip, Bastille a Temples.