A hithau’n ddechrau tymor ysgol newydd, mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru wedi lansio adnoddau newydd heddiw i gynorthwyo rhieni a gofalwyr i helpu eu plant â’u gwaith cartref mathemateg.

Mae’r adnoddau’n cynnwys llyfrynnau gwaith ar-lein ar gyfer gwahanol ystod oedrannau, fideos sy’n esbonio’r gwaith a bydd llyfrynnau copi caled yn cael eu dosbarthu i ysgolion Cymru ar Fedi 26.

Mae’r adnoddau’n rhan o ymgyrch “Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref” sy’n ceisio pontio’r bwlch dysgu rhwng disgyblion breintiedig a difreintiedig, drwy ddangos i rieni a gofalwyr sut gall cynorthwyo yn y cartref wella eu perfformiad yn yr ysgol.

‘Pryder ynghylch mathemateg’

 

“Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw anogaeth rhieni fel y cysylltiad hanfodol rhwng yr ysgol a’r cartref,” meddai’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

“Un mater a godwyd ganddynt sawl gwaith oedd eu pryder ynghylch mathemateg a sut i helpu eu plentyn gartref,” meddai wedyn.

“Bydd gallu helpu plant i ddatblygu’r sgiliau bywyd  hollbwysig hynny yn y cartref – bod yn chwilfrydig, yn hyderus ac yn barod i ddysgu – yn sicrhau bod dechrau’r ysgol yn brofiad positif a chyffrous o’u diwrnod cyntaf yno.”