John Hewitt (llun gan yr heddlu)
Mae Heddlu Sir Gaerhirfryn yn apelio am help i gael hyd i ddyn o Blackpool sy’n cael ei amau o gyfres o droseddau difrifol.

Maen nhw’n amau bod gan John Hewitt, 36 oed, gynt o Dickson Road yn y dref, gysylltiadau â Chymru ymysg lleoedd eraill.

Maen nhw’n awyddus i’w holi am nifer o droseddau gan gynnwys treisio, carcharu anghyfreithlon, niweidio, bod ag arf tân yn ei feddiant, bygythiadau i ladd, a lladrad.

Cafodd y troseddau hyn eu cyflawni rhwng mis Mehefin 2015 a mis Gorffennaf eleni.

Meddai DS Ellie Gomerson o Uned Diogelu’r Cyhoedd yn Blackpool:

“Rydym yn gwneud popeth a allwn i gael hyd i Hewitt felly dw i’n pwyso ar unrhyw un sydd wedi ei weld neu sy’n gwybod lle mae am gysylltu â ni.

“Dw i’n cynghori unrhyw un sy’n ei weld i beidio â mynd ar ei gyfyl ond i gysylltu â’r heddlu ar unwaith ar 101.”

Ymhlith yr enwau eraill y mae Hewitt yn eu defnyddio mae John Wilson, Dean McKenzie, John Burton a John Davies.