Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi cadarnhau nad oes pryderon am anafiadau ar drothwy’r gêm ragbrofol Cwpan y Byd gyntaf yn erbyn Moldofa nos Lun.

Ond mae Cymru’n dechrau’r ymgyrch heb Aaron Ramsey a Jonny Williams.

Serch hynny, mae Coleman yn gwybod fod ganddo fe ddau chwaraewr yn y garfan sydd â phwynt i’w brofi.

Ni chafodd Emyr Huws na Tom Lawrence mo’u dewis ar gyfer Ewro 2016, a doedden nhw ddim wedi bod yn chwarae’n gyson i’w clybiau.

Ond mae’r ddau wedi symud i glybiau newydd – Huws i Gaerdydd (o Wigan) a Lawrence i Ipswich (ar fenthyg o Gaerlŷr), ac mae Coleman yn credu y gall y ddau ohonyn nhw gyfrannu yn ystod yr ymgyrch newydd.

Yr unig bryder sydd gan Coleman, fodd bynnag, yw faint o bêl-droed mae’r chwaraewyr wedi’i chwarae.

Mae rhai fel Hal Robson-Kanu, oedd heb glwb tan ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo, heb chwarae fawr o bêl-droed ers diwedd cystadleuaeth Ewro 2016.

Dywedodd Coleman: “Mae rhaid i ni edrych ar y munudau maen nhw wedi’u chwarae. Mae’n bryder o hyd â bod yn onest pan fo chwaraewyr yn ceisio chwarae munudau i’w clybiau.

“Mae Hal [Robson-Kanu] yn enghraifft berffaith ac mae’n cael effaith ar faint all e chwarae. Mae’r un peth i bawb.”

Moldofa

Er bod Cymru’n dechrau’r gêm yn erbyn Moldofa fel ffefrynnau, dydy Coleman ddim yn barod i wfftio maint eu bygythiad.

Mae’n cyfaddef fod gan Gymru her wrth geisio torri trwy amddiffyn y gwrthwynebwyr.

“Fe gollon nhw wyth gêm yn yr ymgyrch ddiwethaf felly dydy eu record ddim yn wych, ond dydyn nhw ddim yn ildio llawer o goliau ac maen nhw bob amser yn ei gwneud hi’n anodd.

“Byddan nhw’n drefnus, yn ymosodol, a dydy hon ddim yn gêm lle gallwn ni fynd yno gan gymryd y bydd yn mynd o’n plaid ni ac y bydd hi ar ben arnyn nhw ar ôl 60 munud.”

Ashley Williams

Cafodd sylwadau Coleman eu hategu gan y capten Ashley Williams, sy’n gobeithio rhoi perfformiad y bydd y cefnogwyr yn falch ohono.

“Bydd y cefnogwyr yn amyneddgar, mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych.

“Does dim angen i fi roi neges iddyn nhw, maen nhw’n deall pêl-droed. Maen nhw am gael perfformiad ac rydyn ni am roi un iddyn nhw.”

Dywedodd Williams ei fod yn barod am yr ymgyrch newydd, a bod ei dîm yn barod i dynnu llinell o dan eu llwyddiant yn Ewro 2016 a dechrau’r ymgyrch o’r newydd.

Ond fe fydd y capten yn ymddeol ar ddiwedd yr ymgyrch.

“Wnaethon ni gau’r Ewros allan rywfaint o’r diwrnod cyntaf a gosod ein stondin ar gyfer yr ymgyrch.

“Ry’n ni wedi trafod cau un ymgyrch a dechrau un newydd.

“Ry’n ni wedi gweld fideos mewn rhai cyfarfodydd. Ar y noson gyntaf, roedd fideo am yr Ewro i ail-fyw’r atgofion.

“Mae’n bwysig cydnabod yr hyn wnaethon ni ond hefyd ei roi o’r neilltu a symud ymlaen. Dyna fyddwn ni’n ei wneud.”