Rhan o adeilad gorsaf bŵer Didcot, Sir Rhydychen a ddymchwelodd ym mis Chwefror Llun: PA
Mae corff dyn y cafwyd hyd iddo yn adfeilion gorsaf bwer Didcot yr wythnos yma wedi cael ei adnabod fel Christopher Huxtable o Abertawe.

Roedd y dyn 34 oed wedi bod ar goll ers i’r orsaf ddymchwel ym mis Chwefror.

Mae’r heddlu a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i amgylchiadau ei farwolaeth, ac mae’r gwaith o archwilio’r safle yn dal i fynd yn ei flaen.

Mae dau ddyn o Rotherham yn Ne Swydd Efrog wedi bod ar goll ers i’r adeilad yn Sir Rhydychen ddymchwel, ac mae corff dyn arall, Michael Collings, 53, wedi cael ei ddarganfod yno.

Hyd yn hyn, mae adfeilion yr orsaf bwer wedi bod yn rhy beryglus i’w harchwilio.