Mae ymchwil newydd sy’n rhestru resymau pobol dros ddysgu Cymraeg, yn dangos mai un o’r ffactorau pwysica’ ydi lle mae pobol yn byw.

* Yn ôl ymchwil y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae pobol yng ngogledd Cymru a chanolbarth neu orllewin Cymru am ddysgu Cymraeg er mwyn byw mewn cymuned Gymraeg.

* Yng Nghaerdydd a’r Fro, mae bod â phlant sy’n derbyn addysg Gymraeg, neu fwriadu anfon plant i ysgolion Cymraeg, yn ysbrydoli pobol i ddysgu’r iaith.

* Yn y dwyrain ac yn ne Cymru, mae pobol am ddysgu Cymraeg er mwyn rhoi sialens i’w hymennydd a chadw eu meddyliau yn brysur ar ôl ymddeol.

Roedd pobol yn y gorllewin a de Cymru hefyd yn dweud mai ymdeimlad o hunaniaeth a gwreiddiau oedd yn eu cymell i ddysgu Cymraeg.

Ac fe gafodd mwy o gyfleoedd gwaith ei nodi fel rheswm i bobol yn ardal Caerdydd ac yng nghanolbarth a’r gorllewin.

Corff newydd

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yw’r corff newydd sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros ddysgu Cymraeg i Oedolion.

“Mae gan bobl lot o resymau da dros ddysgu’r Gymraeg – yr hyn sy’n hynod ddiddorol yw darganfod bod gwahaniaethau rhanbarthol yn yr hyn sy’n eu cymell,” meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan.

“Mae’r data newydd hwn yn atgyfnerthu’r hyn ry’n ni’n ei glywed ar lawr gwlad gan ein darparwyr a thiwtoriaid a bydd yn gymorth wrth i ni fwrw ati gyda’n gwaith.”