Mae cwmni ynni wedi gwneud cais pellach i Gyngor Sir Gaerfyrddin i gynyddu maint y tyrbinau gwynt sy’n cael eu codi ar dir ger Llandeilo.

Cafodd cais cynllunio gan gwmni ynni EnergieKontor UK i godi dau dyrbin gwynt ar dir fferm Esgairliving yn Rhydycymerau, Llandeilo sêl bendith y Cyngor ym mis Mawrth eleni.

Ond mae’r cwmni bellach wedi mynd yn ôl at y pwyllgor cynllunio yn gofyn am gynyddu’r uchder o 100m i 125m, ac am yr hawl i gynyddu lled y rotor o 71m i 100m.

Yn ôl y cofnodion gan Cyngor Sir Gâr, derbyniwyd 200 o wrthwynebiadau gan bobol leol i’r datblygiad gwreiddiol ar sail y byddai’r datblygwyr eisiau ehangu’r amodau pe baent yn cael caniatad.

Mae’r cofnodion hefyd yn nodi fod y Cyngor wedi derbyn llythyrau o gefnogaeth gan bobol yn byw y tu allan i’r ardal.