“Amser grêt i fod yn Gymro neu’n Gymraes”

Diweddarwyd  


“Mae’n amser grêt i fod yn Gymro neu’n Gymraes,” yn ôl golwr Cymru, Owain Fôn Williams ar drothwy ymgyrch tîm pêl-droed Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2018.

Bydd Cymru’n herio Moldofa yn eu gêm gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun, gan wybod y bydd gan y genedl ddisgwyliadau mawr yn dilyn eu llwyddiant yn Ewro 2016 yn Ffrainc. Yn ôl Fôn Williams, mae’r garfan yn dal i deimlo’r bwrlwm ar drothwy ymgyrch newydd.

Dywedodd wrth Golwg360: “Mae Cymru i gyd y tu ôl i’r tîm yma, yn enwedig ar ôl be ddigwyddodd yn Ffrainc wrth gyrraedd y semi-final. Roedd o’n sbesial iawn, yn freuddwyd i fod yn onest.

“Dw i’n sicr ‘mod i’n siarad dros yr holl hogia yn y garfan. Roedd o’n un o amserau gorau eu bywydau nhw, ac yn sicr i fi’n bersonol.”

Mae’r rheolwr Chris Coleman eisoes wedi tanlinellu pwysigrwydd edrych ymlaen a datblygu ar y seiliau a gafodd eu gosod yn Ffrainc dros yr haf, ac fe gafodd hynny ei danlinellu gan Owain Fôn Williams wrth i’r wasg ymgasglu yng ngwesty’r Vale ddydd Iau.

“Dan ni gyd yn gwybod pa mor agos ydan ni fel carfan, fod bond yma rhyngddan ni gyd a’r agosatrwydd. Mae be sy wedi cael ei gyflawni allan yn Ffrainc yn mynd i gael ei gario ‘mlaen rwan, gobeithio, i’r ymgyrch yma.

“Mae gynnon ni gêm anodd iawn yn erbyn Moldofa ddydd Llun, ond gobeithio’n arw y byddan ni’n curo honno.”

Fe fydd y cefnogwyr – a’r chwaraewyr o ran hynny – yn awyddus i’r bwrlwm a’r parti barhau ar ddechrau ymgyrch newydd, ond fydd Moldofa ddim yn gêm hawdd, yn ôl y golwr o Ddyffryn Nantlle.

“Mi fydd hi’n anodd iawn, sdim dwywaith am hynny. Does na’m gêm hawdd yn yr ymgyrch yma. Mae ‘na ddeg gêm ac mi fydd hi’n ddeg gêm anodd iawn. Ond gobeithio’n arw y byddan ni’n dechrau’n dda.

“Dan ni gyd yn gallu teimlo’r gefnogaeth y tu ôl i ni. Mae o’n grêt, yn anhygoel. Dan ni’n teimlo bod pawb o bob cornel o Gymru’n barod i heidio nôl i Gaerdydd.”

Stori: Alun Rhys Chivers

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones