Amy Jenkins Llun: Prifysgol Abertawe
Mae myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill £103,343 o gyllid er mwyn ceisio dod o hyd i ffordd i fynd i’r afael â dementia.

Mae Amy Jenkins wedi ennill yr arian gan elusen Ymchwil Alzheimer BRACE er mwyn ceisio ennill gwell dealltwriaeth o’r newidiadau mewn ystod eang o brosesau ymennydd a allai helpu esbonio pam mae rhai oedolion hŷn yn profi newid yn eu cof a gwybyddiaeth.

Byddai gwybodaeth o’r fath yn gwella’r ddealltwriaeth o sut all dementia effeithio ar fywyd bob dydd a bydd hefyd yn helpu tuag at ddatblygu strategaethau ymyrryd er mwyn atal dirywiad pellach a deall y berthynas rhwng heneiddio a dementia.

‘Gwybodaeth bwysig’ 

Dywedodd Amy Jenkins: “Rwy’n falch iawn y bydd y cyllid yn caniatáu i mi i barhau a fy ngwaith yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe.

“Bydd y prosiect yn cynnwys defnyddio ystod eang o brofion cyfrifiadurol a niwroseicolegol i fesur prosesau ymennydd. Bydd gweinyddu’r asesiadau hyn nid yn unig yn darparu ffenestr i mewn i’n dealltwriaeth o newid gwybyddol mewn poblogaethau ond, yn ogystal, yn caniatáu i’r newidiadau hyn gael eu holrhain dros amser – gan ddarparu gwybodaeth bwysig am sut mae’r heriau’n cynyddu wrth i’r clefyd ddatblygu.”