Noel Gallagher Llun: Gŵyl Rhif 6
Mae Gŵyl Rhif 6 wedi cyhoeddi bod y tocynnau i gyd wedi eu gwerthu ar gyfer yr ŵyl y penwythnos hwn.

Yr ŵyl yw un o ddigwyddiadau mwyaf gogledd Cymru, a bydd tua 15,000 o bobol yn heidio i Bortmeirion eleni o heddiw tan 4 Medi.

Mae artistiaid Cymraeg yr ŵyl eleni’n cynnwys Topper, Meic Stevens, Cowbois Rhos Botwnnog, Sŵnami, Palenco, HMS Morris ac Ysgol Sul.

Y prif artistiaid sy’n chwarae yw  Super Furry Animals, Noel Gallagher’s High Flying Birds, Hot Chip, Bastille a Temples.

Yn y rhaglen gelfyddydau a diwylliant, Catrin Finch, Irvine Welsh a Shaun Ryder, yw rhai o’r enwau sydd ar y rhestr.

Meddai Gŵyl Rhif 6 ar eu tudalen Facebook: “Diolch yn fawr i bawb sydd wedi prynu tocyn ac a fydd yn ymuno â ni’r penwythnos hwn. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r Pentref ar gyfer yr Ŵyl Rhif 6 mwyaf a’r gorau hyd yn hyn. Byddwn yn eich gweld chi cyn bo hir…”